Y Wyddor

 

18 llythyren a ddefnyddir yn y wyddor Wyddeleg yn draddodiadol:

 

a
b
c
d
e
f
g
h
i
l
m
n
o
p
r
s
t
u

         

Defnyddir j, k, q, v, w, x, y, z yn achlysurol mewn geiriau a fenthyciwyd o ieithoedd eraill.

 

Yr unig acen a ddefnyddir yw’r un ddyrchafedig ´ a geir ar y llafariaid cysefin i gyd i ddangos eu bod yn hir: á, é, í, ó, ú.

 

Am ganrifoedd lawer ysgrifennid y Wyddeleg mewn sgript ‘Wyddelig’ (a oedd yn seiliedig ar ffurfiau llawysgrifol), ond symudwyd yn raddol i’r ffurfiau Rhufeinig yn ystod yr ugeinfed ganrif, a dyna a welir mewn cyhoeddiadau bron yn gyfangwbl ers rhyw hanner canrif bellach. Gwelir yr hen sgript ar hen arwyddion ac fe’i defnyddir o hyd mewn siopau a thafarnau. Mae llawer o’r llythrennau yn ddigon hawdd eu hadnabod. Un gwahaniaeth pwysig rhwng yr hen drefn a’r un newydd yw’r dull a ddefnyddir i nodi treiglad y séimhiú: erbyn hyn fe’i dynodir drwy osod y llythyren ‘h’ ar ôl y gytsain a newidiwyd, ond gynt rhoddid dot uwchben y gytsain honno.

 

Gellir darllen rhywfaint am hanes argraffu’r sgript ar

www.spd.dcu.ie/library/LIBeng/Special%20Collections/spcoll4cent.htm

(yn Saesneg)

neu

www.spd.dcu.ie/library/LIBire/Special%20Collections/spcoll4centG.htm

(yn y Wyddeleg)

 

Am ragor o enghreifftiau, gwybodaeth ar sut i’w defnyddio ar gyfrifiaduron, a ffontiau i’w dadlwytho, gweler (yn y Wyddeleg yn unig):

www.connect.ie/users/morley/cloanna/index.htm

www.fainne.org/gaelchlo/index.html

 

Yn gyfochrog â’r symudiad at deip Rhufeinig, symleiddiwyd yr orgraff hanesyddol i gael gwared â llawer o lythrennau na chânt eu hynganu bellach. Mewn llyfrau o hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, er enghraifft, mae ffurfiau llawer o eiriau yn wahanol i’r hyn a ddefnyddir heddiw:

 

Gaedhilge

>  

Gaeilge

aistriughadh

>  

aistriú

Nodlaig

>  

Nollaig

 

Cedwir o hyd at hen ffurf ysgrifenedig Dún Laoghaire yn lle ei diweddaru i Dún Laoire.